Ein Hamgylchedd
Rydym yn byw mewn byd ac ar blaned sydd yn mynd yn fwyfwy cymhleth a bregus bob dydd. Mae Gwynedd Disposables Cyf yn ymrwymo i gynnal ein busnes mewn dull cyfrifol a chynaliadwy. O’r herwydd mae hi’n ddyletswydd arnom i ystyried oblygiadau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd ein penderfyniadau a’n gweithredoedd.
Drwy adolygu targedau a pherfformiad amgylcheddol ein cyflenwyr yn gyson, rydym yn gallu pwyso a mesur eu hymrwymiad ar faterion megis gostyngiad carbon, ynni, plastig, gwastraff a chyfrifoldebau corfforaethol cymdeithasol.
Wrth gydweithio ar y cyd gyda’n cyflenwyr, gallwn fynnu’r safonau uchaf posib o ran gwarchodaeth amgylcheddol a chymdeithasol, boed drwy ddefnyddio cynnyrch bioddiraddadwy, cynnyrch gaiff ei ystyried yn impact iselo ran amgylchedd, neu drwy weithio’n agosach gyda partneriaid cymdeithasol yn y gymuned leol.
Cliciwch ar rai o’r isod os am flas o bolisiau amgylcheddol ein prif gyflenwyr